GWERS 20
Sut Mae’r Corff Llywodraethol yn Gweithio Heddiw?
Yn y ganrif gyntaf, roedd “yr apostolion a’r henuriaid yn Jerwsalem” yn gwasanaethu fel corff llywodraethol a oedd yn gwneud penderfyniadau pwysig dros yr holl gynulleidfaoedd o Gristnogion eneiniog. (Actau 15:2) Roedden nhw’n trafod yr Ysgrythurau ac yn ildio i arweiniad ysbryd Duw cyn dod i benderfyniad unfrydol. (Actau 15:25) Dilynir yr un patrwm heddiw.
Mae’n cael ei ddefnyddio gan Dduw i wneud ei ewyllys. Mae gan y brodyr eneiniog sydd ar y Corff Llywodraethol ddiddordeb dwfn yng Ngair Duw, ac mae ganddyn nhw brofiad o ddelio gyda materion ysbrydol ac ymarferol. Maen nhw’n cyfarfod bob wythnos i drafod anghenion y frawdoliaeth fyd-eang. Fel roedd yn digwydd yn y ganrif gyntaf, anfonir cyfarwyddiadau sy’n seiliedig ar y Beibl at y cynulleidfaoedd drwy lythyr neu drwy’r arolygwyr teithiol ac eraill. Mae hynny’n helpu pobl Dduw i feddwl ac ymddwyn yn gytûn. (Actau 16:4, 5) Mae’r Corff Llywodraethol yn goruchwylio’r gwaith o baratoi bwyd ysbrydol, yn hyrwyddo’r gwaith pregethu, ac yn arolygu’r gwaith o benodi brodyr i gymryd cyfrifoldebau.
Mae’n ildio i arweiniad ysbryd Duw. Mae’r Corff Llywodraethol yn troi at Jehofa, Penarglwydd y Bydysawd, ac at Iesu, Pen y gynulleidfa, am arweiniad. (1 Corinthiaid 11:3; Effesiaid 5:23) Nid yw’r aelodau yn eu gweld eu hunain fel arweinwyr pobl Dduw. Ynghyd â phob Cristion eneiniog, maen nhw’n “dilyn yr Oen [Iesu] i ble bynnag yr â.” (Datguddiad 14:4) Mae’r Corff Llywodraethol yn ddiolchgar am ein gweddïau drostyn nhw a thros eu gwaith.
-
Pwy oedd aelodau’r corff llywodraethol yn y ganrif gyntaf?
-
Sut mae’r Corff Llywodraethol heddiw yn edrych at Dduw am arweiniad?