Neidio i'r cynnwys

Neidio i'r cynnwys

GWERS 11

Sut Mae’r Beibl yn Ein Helpu?

Sut Mae’r Beibl yn Ein Helpu?

1. Pam mae angen arweiniad arnon ni?

Sut mae egwyddorion y Beibl yn gwneud inni fod yn fwy gofalus o ran iechyd a diogelwch?—SALM 36:9.

Mae ein Creawdwr yn ddoethach na ni. Mae’n gofalu amdanon ni fel Tad cariadus. Doedd Duw ddim yn bwriadu inni fyw’n annibynnol arno ef. (Jeremeia 10:23) Ni all plentyn bach lwyddo heb arweiniad ei rieni, ac ni allwn ni lwyddo heb arweiniad ein Duw. (Eseia 48:17, 18) Mae egwyddorion y Beibl yn rhodd oddi wrth Dduw.​—Darllenwch 2 Timotheus 3:16.

Mae deddfau ac egwyddorion Jehofah yn rhoi’r bywyd gorau inni heddiw, ac maen nhw’n dangos sut y gallwn ni gael bendithion tragwyddol yn y dyfodol. Gan mai Duw yw ein Creawdwr, dylen ni fod yn ddiolchgar am ei arweiniad.​—Darllenwch Salm 19:7, 11; Datguddiad 4:11.

2. Beth yw egwyddorion y Beibl?

Gwirioneddau sylfaenol yw egwyddorion. Mae deddfau, ar y llaw arall, ar gyfer amgylchiadau penodol. (Deuteronomium 22:8) Mae angen gwaith meddwl er mwyn deall sut y mae egwyddorion yn berthnasol i sefyllfa benodol. (Diarhebion 2:10-12) Er enghraifft, mae’r Beibl yn dysgu bod bywyd yn rhodd oddi wrth Dduw. Gall yr egwyddor sylfaenol honno fod yn ganllaw inni yn y gwaith, yn y cartref, ac wrth inni deithio. Mae’n gwneud inni fod yn fwy gofalus.​—Darllenwch Actau 17:28.

3. Beth yw’r ddwy brif egwyddor?

Cyfeiriodd Iesu at ddwy brif egwyddor. Mae’r un gyntaf yn dangos beth yw pwrpas bywyd, sef adnabod Duw, ei garu, a’i wasanaethu’n ffyddlon. Wrth wneud penderfyniadau, dylen ni ystyried yr egwyddor honno bob amser. (Diarhebion 3:6) Mae’r rhai sy’n dilyn yr egwyddor hon yn cael perthynas dda â Duw, yn ogystal â gwir hapusrwydd a bywyd tragwyddol.​—Darllenwch Mathew 22:36-38.

Gall yr ail egwyddor wella ein perthynas â phobl eraill. (1 Corinthiaid 13:4-7) Mae rhoi’r egwyddor hon ar waith yn gofyn inni efelychu’r ffordd y mae Duw yn trin pobl eraill.​—Darllenwch Mathew 7:12; 22:39, 40.

4. Sut mae egwyddorion y Beibl yn ein helpu?

Mae egwyddorion y Beibl yn uno teuluoedd ac yn eu dysgu i garu ei gilydd. (Colosiaid 3:12-14) Hefyd, mae’r Beibl yn dysgu y dylai priodas fod yn berthynas barhaol ac mae’r egwyddor hon yn amddiffyn teuluoedd.​—Darllenwch Genesis 2:24.

Fe allwn ni elwa’n faterol ac yn emosiynol trwy ddilyn egwyddorion y Beibl. Er enghraifft, mae gweithwyr sy’n dilyn egwyddorion y Beibl o ran gonestrwydd a gwaith caled yn fwy tebygol o gael swyddi. (Diarhebion 10:4, 26; Hebreaid 13:18) Mae Gair Duw hefyd yn ein dysgu ni i fod yn fodlon ac i weld ein perthynas â Duw yn fwy gwerthfawr na phethau materol.​—Darllenwch Mathew 6:24, 25, 33; 1 Timotheus 6:8-10.

Mae egwyddorion y Beibl yn amddiffyn ein hiechyd. (Diarhebion 14:30; 22:24, 25) Er enghraifft, bydd glynu wrth orchmynion Duw ynglŷn â goryfed yn ein hamddiffyn rhag clefydau marwol a damweiniau. (Diarhebion 23:20) Mae Jehofah yn caniatáu inni yfed alcohol yn gymedrol. (Salm 104:15; 1 Corinthiaid 6:10) Mae egwyddorion Duw yn ein dysgu ni i reoli ein meddyliau yn ogystal â’n gweithredoedd. (Salm 119:97-100) Ond mae gwir Gristnogion yn ystyried mwy na’u lles eu hunain wrth iddyn nhw barchu safonau Duw. Maen nhw’n parchu safonau Jehofah oherwydd eu bod nhw’n dymuno ei anrhydeddu.​—Darllenwch Mathew 5:14-16.