IONAWR 26, 2021
SIMBABWE
Tystion Jehofa yn Rhyddhau Llyfr Mathew yn Iaith Arwyddion Simbabwe
Ar Ionawr 24, 2021, cafodd Y Beibl—Yr Efengyl yn ôl Mathew ei ryddhau yn Iaith Arwyddion Simbabwe (ZSL). Gwnaeth y Brawd Taurai Mazarura, aelod o Bwyllgor Cangen Simbabwe, ryddhau’r Beibl mewn rhaglen gafodd ei recordio o flaen llaw.
Roedd y 401 o gyhoeddwyr sy’n gwasanaethu mewn cynulleidfaoedd ZSL wrth eu boddau i dderbyn y cyhoeddiad hwn. Maen nhw’n edrych ymlaen at ddefnyddio llyfr Mathew yn eu hastudiaeth bersonol yn ogystal ag ar y weinidogaeth.
Gwnaeth y pandemig wneud pethau’n anoddach i’r tîm cyfieithu ZSL. Fel arfer, byddai cyfieithwyr yn ymweld â rhai byddar yn y gymuned i wneud yn siŵr eu bod nhw’n defnyddio’r arwyddion mwyaf cyfarwydd yn eu cyfieithiad. Ond, roedd cyfyngiadau COVID-19 yn gwneud hynny’n amhosib. Daeth y cyfieithwyr dros y broblem drwy gyfathrebu’n rheolaidd â phobl fyddar gan ddefnyddio galwadau fideo. Gwnaeth hyn helpu’r cyfieithwyr i gynhyrchu cyfieithiad sy’n hawdd i boblogaeth fyddar Simbabwe ei ddeall.
Dywedodd y Brawd John Hunguka, aelod o Bwyllgor Cangen Simbabwe: “Dim ond y cychwyn ydy rhyddhau llyfr Mathew. Mae Tystion Jehofa wedi dechrau prosiect i gyfieithu’r Beibl cyfan i ZSL. Bydd hyn yn cymryd tua deg mlynedd i’w gwblhau.”
Mae’r prosiect hwn yn adlewyrchu’r cariad sydd gan Jehofa tuag at bob math o bobl. Rydyn ni’n trysori ei fendith wrth inni bregethu’r “neges dragwyddol . . . i bobl o bob cenedl, llwyth, iaith, a hil.”—Datguddiad 14:6.