Neidio i'r cynnwys

Helpu Plant yng Ngwlad Thai i Lwyddo yn yr Ysgol

Helpu Plant yng Ngwlad Thai i Lwyddo yn yr Ysgol

Yn cychwyn mis Rhagfyr 2012, bu i Dystion Jehofa yng Ngwlad Thai ddechrau ymgyrch arbennig i helpu myfyrwyr i lwyddo yn yr ysgol. Yn ardal Bangkok, aeth ugain o Dystion aeddfed allan fesul grwpiau bach i ymweld ag ysgolion lleol. Siaradon nhw â phob un o ben athrawon yr ysgolion i gynnig rhifyn Hydref 2012 o’r Awake! a oedd yn amlygu cyfres o erthyglau o’i fewn yn dwyn y thema: “How to Succeed at School.”

Yn sgil llwyddiant ymgyrch y Tystion, fe benderfynon nhw ei lledu i bob cwr o’r wlad. Yn y deunaw mis canlynol fe gysyllton nhw ag 830 o ysgolion lle roedd athrawon a myfyrwyr yn rhoi gymaint o groeso i’r Awake! hwn fel bod angen i’w ailargraffu deirgwaith i ymateb â’r mofyn amdano. Archeb am 30,000 oedd un wreiddiol rhifyn Hydref 2012 o’r Awake!, ond oherwydd poblogrwydd y pwnc mae dros 650,000 o gopïau wedi eu dosbarthu!

Roedd athrawon a swyddogion addysg yn gyflym i adnabod gwerth yr Awake! Medd un athro: “Bydd y cylchgrawn yn helpu ein myfyrwyr i agosáu at eu teuluoedd ac i weithio at amcanion da.” Cynhwyswyd y deunydd yn rhaglen addysg rhai o’r ysgolion. Defnyddiodd eraill y cylchgrawn yn y dosbarth fel ymarfer darllen. Mewn un ysgol roedd deunydd y cylchgrawn yn sail gwaith i’r myfyrwyr, roedden nhw i ysgrifennu adroddiad arno, ac roedd gwobrwyon am y cynigion gorau.

Canmolodd un fyfyrwraig yr erthygl “Winning the War Against Obesity in the Young,” a ymddangosodd yn y cylchgrawn hwnnw. Fe esboniodd hi fod gordewdra yn cynyddu fel problem a bod ei ffrindiau yn teimlo’n annifyr o’i drafod ag eraill. Meddai hi: “Diolch am ddarparu cyngor sy’n hawdd ei ddeall a’i ddilyn.”

Mae rhieni yn gwerthfawrogi’r deunydd hefyd. Mynegodd un fam ei diolch am y cylchgrawn i’r Tystion a oedd yn ymweld â hi yn ei chartref, meddai hi: “Mae ganddo ganllawiau bydd yn helpu fy merch i wneud yn well yn yr ysgol.”

Medd Mr. Pichai Petratyotin, llefarydd Tystion Jehofa yng Ngwlad Thai: “Mae Awake! yn tystio bod doethineb Beiblaidd wedi gwrthsefyll prawf amser a’i bod yn fuddiol i bobl heddiw. Am fod Tystion Jehofa yn gwerthfawrogi addysg yn fawr iawn, rydyn ni’n hapus i sicrhau bod y rhifyn hwn ar gael i bawb yn ddi-dâl.”