Taith i Fyny Afon Maroni
Ymhell oddi wrth fwrlwm y ddinas fawr, mae pobl o wahanol lwythau, ieithoedd a chenhedloedd yn byw yng nghoedwig law yr Amason, yn Ne America. Felly yng Ngorffennaf 2017, cychwynnodd grŵp o 13 o Dystion Jehofa ar daith i fyny Afon Maroni a’i isafonydd dwyreiniol yn Giana Ffrangeg. Eu nod? I fynd â gobaith o’r Beibl i’r bobl sy’n byw ar hyd yr afon.
Paratoi am y Daith
Fis cyn i’r daith 12 diwrnod gychwyn, daeth y grŵp at ei gilydd i drefnu’r daith. “Dysgon ni am yr ardal a’i hanes, a hefyd trafod sut i baratoi ein hunain am y daith,” meddai Winsley. Cafodd pawb focs er mwyn cadw pethau fel ei hamog a’i rwyd fosgito yn sych. Byddai’n rhaid hedfan ddwywaith a theithio am oriau mewn canŵ.
Sut roedd y rhai gafodd eu dewis yn teimlo am eu gwahoddiad? Neidiodd Claude a Lisette, sydd yn eu chwedegau, ar y cyfle. “O’n i wedi gwirioni, ond yn becso tymed bach,” meddai Claude. “O’n i wedi clywed sôn am ddŵr gwyn peryglus yr afon.” Roedd gan Lisette ei phryderon ei hun. Dywedodd hi: “O’n i’n gofyn i fi fy hun, ‘Sut bydda’ i’n gallu pregethu mewn ieithoedd Amerindiaidd?’”
Roedd un o’r grŵp, o’r enw Mickaël, yn cytuno. “Doedden ni ddim yn gwybod llawer am lwyth Wayana,” meddai, “felly wnes i ymchwil ar y We i ddysgu ambell i air, a chyfarchion yn eu hiaith nhw.”
Gwnaeth Shirley, a deithiodd gyda’i gŵr Johann, restr o’r ieithoedd sy’n cael eu siarad ar hyd yr afon. “Lawrlwython ni lawer o fideos o jw.org yn y rhan fwyaf o’r ieithoedd hynny a chael gafael ar lyfr ymadroddion syml yn Wayana,” meddai.
Cyrraedd Tir yr Amerindiaid
Ar ddydd Mawrth, Gorffennaf 4, aeth y grŵp ar awyren o Saint-Laurent du Maroni i Maripasoula, tref fechan ym mherfeddion Giana Ffrengig.
Yn ystod y pedwar diwrnod nesaf, pregethodd y grŵp i’r pentrefwyr oedd yn byw ar hyd ceinciau uchaf y Maroni, gan deithio mewn canŵs modur sy’n cael eu galw’n geufadau. “Gwelon ni fod gan yr Amerindiaid ddiddordeb mawr ym mhethe Ysgrythurol,” meddai Roland, un o aelodau’r grŵp. “Roedd ganddyn nhw lawer o gwestiynau, ac roedd rhai moyn inni astudio’r Beibl gyda nhw.”
Mewn un pentref, gwnaeth Johann a Shirley gyfarfod cwpl ifanc a oedd newydd golli perthynas a gymerodd ei bywyd ei hun. “Dangoson ni’r fideo A Native American Finds His Creator iddyn nhw,” adroddodd Johann. a “Gwnaeth y fideo gyffwrdd calonnau’r cwpl ifanc. Rhoddon nhw eu cyfeiriad e-bost inni oherwydd roedden nhw moyn cadw cyswllt â ni.”
Y pentref uchaf aethon nhw iddo ar hyd yr afon oedd Antécume Pata. Yno, rhoddodd pennaeth y pentref ganiatâd i’r Tystion blinedig osod eu hamogau mewn man cyhoeddus. Hefyd, gwnaethon nhw ymolchi yn yr afon fel mae’r bobl leol yn ei wneud.
Ar ôl hynny, aeth y grŵp yn eu blaenau i bentref Twenké, lle cawson nhw’r pentrefwyr yn galaru dros golled anwyliaid. “Caniataodd y ‘Dyn Mawr,’ sef pennaeth y llwyth, inni fynd a dod o gwmpas y pentref er mwyn cysuro’r rhai oedd yn galaru,” meddai Éric, un o drefnwyr y daith. “Roedd y pennaeth a’i deulu yn gwerthfawrogi’r adnodau gwnaethon ni ddarllen iddyn nhw o’r Beibl Wayana. Gwnaethon ni hefyd ddangos fideos am yr atgyfodiad mae’r Beibl yn ei addo.”
Ymlaen i Grand-Santi ac Apatou
Cam nesaf y daith oedd i hedfan hanner awr i lawr yr afon o Maripasoula i dref fechan Grand-Santi. Ar ddydd Mawrth a Mercher, rhannodd y grŵp neges y Beibl â’r bobl leol. Ar ddydd Iau, cychwynnodd y Tystion i lawr afon Maroni unwaith eto—siwrnai o bum awr a hanner i bentref Apatou.
Ar ddiwrnod olaf ond un y daith, aeth y grŵp i’r goedwig i ymweld â phentrefi’r Marwniaid, sef disgynyddion y caethweision Affricanaidd a gafodd eu cludo i Dde America yn ystod cyfnod trefedigaethol Swrinâm gyfagos. Gwahoddodd y Tystion bawb i gyfarfod yn y goedwig, mewn pabell fawr a gafodd ei chodi yn arbennig ar gyfer yr achlysur. “Roedd ein calonnau yn byrstio â llawenydd o weld cymaint o bobl oedd yno,” meddai Claude. “Oedden ni ond wedi gwahodd nhw y bore hwnnw!” Dyma oedd taith gyntaf Karsten i’r mewndiroedd, ac fe roddodd anerchiad cyhoeddus yn yr iaith Aukan oedd yn dwyn y teitl “Ai’r Bywyd Hwn Yw’r Cyfan Sydd?” Daeth 91 o sawl pentref i’r cyfarfod.
“’Dyn Ni’n Barod i Fynd Eto!”
Yn olaf, dychwelodd y grŵp i Saint-Laurent du Maroni. Roedd pawb wedi synnu ar yr ochr orau gan ymateb positif y bobl ar hyd y daith a dderbyniodd lawer o gyhoeddiadau, a gwylio dwsinau o fideos sy’n cael eu cynhyrchu gan Dystion Jehofa.
“Does ’da fi ddim y geiriau i ddisgrifio pa mor hapus ydw i ’mod i wedi mynd ar y daith,” meddai Lisette. Mae Cindy’n cytuno: “Dw i jest â marw eisiau mynd eto, os ga’ i’r cyfle. Mae’n rhaid iti dreialu fe er mwyn ei ddeall!”
Gwnaeth y daith sbarduno rhai i ddychwelyd. “’Dyn ni’n barod i fynd eto!” meddai Mickaël. Mae Winsley wedi symud i Saint-Laurent du Maroni, a phenderfynodd Claude a Lisette symud i Apatou.
a Ar gael ar JW Broadcasting.